Amdanom

 

image

Ers ei sefydlu ym 1934 mae’r Gymdeithas Cerdd Dant wedi tyfu a datblygu yn gyson. Mae ganddi 400 o aelodau ac mae’n cyflogi dau berson yn rhan-amser – Swyddog Gweinyddol a Threfnydd y Gwyliau Cerdd Dant.

Uchafbwynt gweithgareddau’r flwyddyn yw’r Ŵyl Cerdd Dant, gŵyl undydd a gynhelir bob mis Tachwedd.

Cynhelir cyrsiau hyfforddi bob blwyddyn i ddysgu sut i osod cerdd dant ac ar gyfer dysgu telynorion sut i gyfeilio.

Mae’r gymdeithas yn llogi pabell yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’r gymdeithas hefyd yn weithgar drwy gydol y flwyddyn yn annog gweithgareddau lleol.

Rheolir y gymdeithas gan Bwyllgor Gwaith sy’n cyfarfod dair gwaith y flwyddyn. Cynhelir etholiadau ymhlith yr aelodau bob blwyddyn i ethol chwech aelod newydd, sy’n gwasanaethu am dymor o dair blynedd.

Cofrestrwyd y Gymdeithas Cerdd Dant fel elusen, rhif 500350.


Cwrs Gosod a Chyfeilio Amgen 2020.

Cafwyd cyfres o sgyrsiau a pherfformiadau cerdd dant ysgafn ar dudalen facebook y Gymdeithas ddydd Sadwrn 12fed o Fedi, 2020 fel arlwy AMGEN oherwydd i ni ohirio’r Cwrs Gosod a Chyfeilio.  Diolch i bawb wnaeth gymryd rhan fe gafwyd gwledd.

Dyma’r ddolen i chi fwynhau’r arlwy eto.


Sesiwn AmGEN Tŷ Gwerin 2020 : ‘Cerdd Dant – y genhedlaeth nesaf’

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod AmGEN cynhaliwyd sesiwn yn y Tŷ Gwerin sef ‘Cerdd Dant – y genhedlaeth nesaf’.

Cliciwch ar y ddolen i fwynhau’r sgyrsiau a’r datganiadau cerdd dant gan ein pobl ifanc talentog yng Nghymru.


Dilynwch ni ar cyfryngau cymdeithasol:

Dilynwch ni ar Twitter Dilynwch ni ar Instagram Dilynwch ni Facebook

Twitter @CerddDant
Instagram @cerdd_dant