Cartref > Gŵyl Cerdd Dant > Llandysul a'r Fro 2017

Llandysul a'r Fro 2017


Ysgol Bro Teifi, Llandysul

Tachwedd 11feg, 2017


Llywydd y Dydd:  John Lewis

Llywyddion Anrhydeddus:  Allan Shires, Catherine Watkin

Arweinyddion: Heledd Cynwal, Owain Evans, Iwan Griffiths

Swyddogion y Pwyllgor Gwaith

Cadeirydd: Cyng. Keith Evans

Is-Gadeirydd: Robert Jenkins

Trysorydd: Heather Price

Prif Stiwardiaid: Eric a Janet Jones

Ysgrifennyddion: Aled Jones a Linda Davies

Rhestr Testunau

Rhestr Testunau Gŵyl Cerdd Dant Llandysul A'r Fro

Cywydd Croeso


Mae’n Gŵyl yn disgwyl eich dod,
mae hi’n berwi o barod; efallai, westai distaw:
a gwres ei llawen groeso
sy ’nghofleidiau breichiau’i bro.
Doed y wlad a’i haelwydydd
at y ford a’r ffest a fydd.

Daw i’r oed o Henllan draw,
efallai, westai distaw:
ein Dafydd, fel rhwng deufyd,
hyd y maes ddaw’n enaid mud,
yma’n ei nef yn mwynhau
hen luniaeth y telynau.

Yn rhengoedd dewch â’r angerdd,
dewch â’r gamp a dewch â’r gerdd;
i’n llwyfan dewch yn llafar,
yn wenu swil mewn dawns wâr,
yn ddweud coeth adroddiad cain,
yn gordiau corau cywrain.

I’r wledd, doed Gwynedd a Gwent,
Cymru’n deulu o dalent;
cewch firi a hwyl, cewch fawrhau
gardd y dawnus gerdd dannau;
cewch Ŵyl uwchlaw disgwyliad:
yr Ŵyl hon syfrdana’r wlad.

John Gwilym Jones