Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

 

Un o brif amcanion cymdeithas y Gwyneddigion, a sefydlwyd ym 1770, oedd adfer canu gyda’r tannau, ac felly hefyd y ‘Canorion’ a sefydlwyd ym 1820.

Fe ddaeth canu gyda’r tannau yn ystod y ganrif hon yn ddifyrrwch poblogaidd ymhlith y werin bobl mewn gwahanol rannau o’r wlad – mewn tafarnau a hefyd ar lwyfannau’r eisteddfodau cynnar.

Atgofion Talhaiarn (John Jones) (1810 – 1869) – o’r flwyddyn 1828

Pan oeddwn yn laslanc deunaw oed yr oeddwn yn ffond iawn o ganu gyda’r tannau. Fy nghyn-athro yn y gelfyddyd honno oedd Sam y Teiliwr, Efenechtyd. Yr oeddwn…..yn y dafarn beunydd ben wedi bod nos. Yr oedd Efenechtyd yr amser hwnnw yn nodedig am ei ddatgeiniaid, sef Sam y Teiliwr, Huw Huws y Gof, Pwll Glas, John Davies y Clochydd, a minnau hefyd. Yr oedd Sam y pryd hwnnw rhwng hanner cant a thrigain oed ac yn ddigri i’w ryfeddu.

Ni wyddai lythyren ar lyfr, ond er hynny yr oedd ganddo lond trol o garolau, cerddi a phenillion wedi eu storio yn ei benglog….


Dros ben llestri

Ymddengys mai hwyl a miri oedd cerdd dant i lawer iawn. Fe allai’r miri hwnnw fynd dros ben llestri weithiau, yn ôl y llygad dyst hwn yn Eisteddfod Madog 1852:

Yn y rhagolygon am ddigonedd o fîr a bwyd, ac ychydig sylltau o arian hefyd, ymrestrai i’r gystadleuaeth hon bob math o faldorddwyr, gloddestwyr, baledwyr, pastynfeirdd, clerwyr, bolerwyr, diotwyr, meddwon – ysbubion y byd a sorod pob dim – fel y daeth yr hen ymarferiad a gwir Gymreig i warth a dirmyg, ac i gael edrych arno fel peth israddol ac annheilwng….yn Eisteddfod Madog yr oedd ysgrechfeydd, cabledd a rhegfeydd yr ymgeiswyr yn llawer mwy amlwg, yn eu hymosodiadau ar y naill a’r llall, nag ydoedd unrhyw gystadledd reolaidd a threfnus mewn datganu gyda’r tannau, a hynny er gwaethaf holl ymdrechion Talhaiarn (yr arweinydd ar y pryd) i’w cadw mewn trefn a dosbarth.


Canlyniad hyn, meddai, oedd i ganu penillion gael ei ddileu o raglen rhai eisteddfodau wedi hynny. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ddeg mlynedd yn ddiweddarach, yn hytrach na chynnal cystadleuaeth fe ddewiswyd tri chanwr penillion “o nodwedd parchus” i ddifyrru’r gynulleidfa.

Ond daeth y gystadleuaeth yn ei ôl, ac mae’n rhesymol tybio fod ymdrech wedi bod i gadw gwell trefn ac i gael gwared â’r elfennau llai parchus.

 

Canu Cylch
Un o’r cystadlaethau mwyaf poblogaidd oedd Canu Cylch. Byddai’r cystadleuwyr i gyd (wyth yn yr enghraifft isod yn Eisteddfod Powys 1824) yn sefyll yn un rhes ar y llwyfan.

Tynnid “byrra docyn” i benderfynu pwy oedd yn canu gyntaf, a’r drefn wedi hynny. Byddai’r beirniaid a’r telynor yn penderfynu ar alaw, a thra byddai’r telynor yn canu’r alaw drwyddi un waith, byddai’r canwr cyntaf yn penderfynu pa fath o bennill y byddai’n ei ganu. Byddai raid i’r cantorion eraill adnabod y mesur a chanu pennill gwahanol ar yr un mesur, un ar ôl y llall – a gosod ar y pryd, wrth gwrs.

   

Byddai unrhyw un oedd yn canu mesur anghywir neu’n methu cofio pennill ar y mesur hwnnw, yn cael ei daflu allan o’r gystadleuaeth. Byddai’r beirniad yn newid yr alaw ar ddiwedd y ‘cylch’ cyntaf a byddai’r ail ‘gylch’ yn cychwyn – a’r tro hwn, byddai trefn y cantorion yn newid er mwyn rhoi cyfle i rywun arall fynd gyntaf. Roedd canu cylch yn brawf ar allu i osod ar y pryd, ond yn fwy fyth o brawf ar y cof, a gallai’r gystadleuaeth fynd ymlaen am amser maith iawn.

Penderfynwyd yn ffurfiol mewn cynhadledd ym 1934 i ddileu’r math hwn o ganu cerdd dant.

 
Idris Fychan

Enillodd Idris Fychan wobr am ysgrifennu traethawd ar Hanes a Hynafiaeth Canu Gyda’r Tannau yn Eisteddfod Genedlaethol Caer (1866), ac roedd cyhoeddi’r traethawd hwnnw ym 1885 yn garreg filltir bwysig yn hanes cerdd dant. Am y tro cyntaf, roedd yma gyfarwyddiadau sut i fynd ati, ymgais i ffurfio set o reolau, yn ogystal â sawl gosodiad. Ar y cyfan, roedd cyfalawon y gosodiadau hyn yn cadw’n glós at nodau’r gainc neu’n cadw at yr un nodyn am sawl bar.

Ar ddiwedd ei draethawd mae Idris Fychan yn rhestru 64 o brif ddatgeiniaid y cyfnod, rhestr sy’n dangos pwysigrwydd ardaloedd Mawddwy, Dolgellau, Penllyn, Edeyrnion, Uwchaled a Bro Hiraethog i’r traddodiad cerdd dant ar y pryd.

 
Telynor Mawddwy (Dafydd Roberts, y Telynor Dall) 1879 -1958

Roedd Dafydd Roberts yn delynor ac yn ddatgeinydd medrus. Treuliodd gyfnod ym Mhlas Llanofer, lle meistrolodd y grefft o ganu’r delyn deires. Ym 1911 cyhoeddodd lawlyfr cerdd dant o’r enw Y Tant Aur – fel Idris Fychan rhyw chwarter canrif ynghynt, yn adlewyrchu gosodiadau syml y cyfnod. Mae’n amlwg fod y llyfr wedi gwerthu miloedd, oherwydd bu raid cyhoeddi ail argraffiad bum mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd yr ail argraffiad hwn mewn gwirionedd yn fersiwn wahanol iawn, a’r peth mwyaf amlwg yw’r ymdrech a wnaed i greu cyfalawon mwy cerddorol. Roedd Telynor Mawddwy ei hun, yn ei Ragair i’r argraffiad cyntaf, wedi dyfynnu beirniadaeth y cerddor D.Emlyn Evans:

 
Perygl mawr datganwyr yw adrodd eu penillion ar ryw ychydig o seiniau, megis y cyweirnod neu y pumed, a thrwy hynny wneud y datganiad yn gaeth ac undonnog.


Roedd y newidiadau a wnaed rhwng argraffiad cyntaf ac ail argraffiad Y Tant Aur yn drobwynt allweddol yn hanes cerdd dant.