Hanner Cyntaf yr 20fed Ganrif

 

image

Pan gyhoeddodd Telynor Mawddwy ei werslyfr cerdd dant Y Tant Aur ym 1911, fe werthwyd y copïau i gyd o fewn dim o dro. Mae’n amlwg felly fod yna ddiddordeb yn yr hen grefft ym mhob rhan o’r wlad.

Ond ar yr un pryd, mae’n ymddangos fod cryn lawer o ddadlau ac anghytuno ynglŷn â gwahanol ddulliau o osod, pa geinciau oedd yn addas, ac yn y blaen.

Roedd diffyg cyfarwyddiadau a rheolau pendant yn creu ansicrwydd, a’r diffyg hwn a arweiniodd at sefydlu’r Gymdeithas Gerdd Dant ym 1934.

Un o’r ffigurau mwyaf dylanwadol oedd y telynor dall, David Francis.

 
image

I’w gartref ef ym Mlaenau Ffestiniog y cyrchai amryw o bobl i ddysgu’r grefft, yn eu plith JE Jones, Maentwrog, awdur Swyn y Tannau ac un o ddatgeinwyr gorau’r cyfnod.

Un arall oedd Dewi Mai o Feirion – gŵr a dyfodd i fod yn un o ffigurau mwyaf allweddol byd cerdd dant yr ugeinfed ganrif.

Yn ei golofn wythnosol yn Y Cymro yn y tridegau a hefyd ar dudalennau Y Brython fe wyntyllodd ef lu o gwestiynau yr oedd angen eu hateb.

Ysgogodd ei golofn lythyru brwd a chyson yn y wasg, a chanlyniad hynny yn y pen draw oedd galw’r gynhadledd i sefydlu’r Gymdeithas Gerdd Dant yn Y Bala.

J E Jones
Ar y pryd, roedd statws cerdd dant yn bur isel. Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933, er enghraifft, fe wthiwyd y cystadlaethau cerdd dant i gyd i un o’r pebyll ymylol. Cwynai ambell un am ddirywiad mewn safonau o’i gymharu â’r dyddiau a fu (ond ar y llaw arall yr oedd Dewi Mai wedi casglu rhestr o 210 o ddatgeiniaid cerdd dant a oedd wrthi ym mhob rhan o Gymru ym 1934).
 
image

Dywedir mai Meirionnydd oedd crud cerdd dant, a phan restrwn yr holl unigolion oedd yn weithgar yno, fe welwn pam: David Francis, William Morris Williams a Ioan Dwyryd ym Mlaenau Ffestiniog, Dewi Mai o Feirion, Caradog Puw, W.H. Puw a Watcyn o Feirion yn ardal Y Bala, J.Breese Davies a Thelynor Mawddwy yn Ninas Mawddwy, Gwyndaf Evans yn Llanfachreth, William Edwards yn Rhydymain, Tom Jones ac Einion Edwards yn Llanuwchllyn, Emrys Jones, Llangwm ac yn y blaen.

Ond fe chwaraeodd datgeinwyr a thelynorion eraill ran bwysig yn natblygiad y grefft. Er enghraifft, fe wnaeth Llyfni Huws a’i deulu (o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol) lawer i hybu’r traddodiad yn Ne Cymru, ac fe wnaeth y Brodyr Francis eu rhan hwythau yn Nyffryn Nantlle.

Dewi Mai o Feirion

Un peth a nododd Dewi Mai o Feirion oedd yr angen i wella safonau cerddorol y grefft – unwaith eto yn adleisio’r angen a deimlodd Telynor Mawddwy gryn chwarter canrif ynghynt.

Cafwyd ymateb i’w gri ac yn Eisteddfod Machynlleth ym 1937 fe enillwyd gwobr am gasgliad o geinciau a gosodiadau gan gerddor proffesiynol, Dr Haydn Morris o Lanelli.

image

Tyfodd llawer o alawon Haydn Morris yn rhai cyfarwydd iawn.

Sefydlu’r Gymdeithas Gerdd Dant ym 1934 oedd y digwyddiad mwyaf tyngedfennol a fu yn hanes y grefft erioed, oherwydd fe arweiniodd at dwf a datblygiadau mawr. Aethpwyd ati i dynnu rhestr o reolau unwaith ac am byth.

Nid mater bach oedd hynny, a bu llawer o drafod a dadlau. Yn wir, ni chafodd yr holl reolau eu pennu’n derfynol hyd at y chwedegau. Cwynai rhai ar y pryd fod rheolau fel hyn yn fwy tebyg o fygu canu gyda’r tannau yn hytrach na’i hyrwyddo, ond yr effaith bwysicaf yn y pen draw oedd dileu unrhyw ansicrwydd, a chreu trefn allan o anhrefn.

Dr Haydn Morris