O ddechrau’r ugeinfed ganrif y daw’r recordiadau cynharaf o ganu cerdd dant – ac mae hyd yn oed y recordiadau hynny yn swnio’n wahanol iawn i gerdd dant heddiw. Peth anodd iawn felly yw ceisio dychmygu sut beth oedd cerdd dant ganrifoedd lawer yn ôl!
Ar bapur, nid oes cofnod cerddorol o osodiad cerdd dant hyd at 1839, yn llyfr John Parry (Bardd Alaw), The Welsh Harper – ond nid oes sicrwydd fod y gosodiad hwnnw yn adlewyrchiad cywir o’r hyn a glywid ar lafar gwlad. Ond gellir bod yn siwr o un peth – fod canu i gyfeiliant telyn o ryw fath yn mynd yn ôl yn bell iawn, mor bell ag oes y derwyddon. Mae’n siwr fod pobl heblaw’r Celtiaid yn gwneud hyn, ond dros y canrifoedd fe ddaeth un elfen bwysig i’r amlwg yng Nghymru a fyddai’n gwneud y grefft o ganu gyda’r tannau mor wahanol, sef y berthynas arbennig rhwng cerddoriaeth a barddoniaeth. Cyfrwng i gyflwyno barddoniaeth yw cerdd dant, a’r geiriau yw’r elfen bwysicaf.
Credir mai’r un person oedd y telynor a’r datgeiniad am gyfnod maith, ond fod y ddwy grefft wedi gwahanu erbyn tua dechrau’r canol oesoedd.
Mae sawl cyfeiriad at y grefft o ganu gyda’r tannau i’w gael mewn llawysgrifau o’r Oesoedd Canol ymlaen, er enghraifft y dyfyniad hwn o Lawysgrif Peniarth, tua 1330:
Tri pheth a beir kanmawl kerddawr, nyt amgen: dychmycvawr ystyr, ac odidawc kerddwriaeth, ac eglur datganyat…..Tri anhepgor kerdd ysyd, nyt amgen: medwl digrif, a messureu kerddwryaeth, a thauawt eglur wrth y datkan.
(Tri peth sy’n ennyn canmoliaeth i gerddor, sef deunydd llawn sylwedd a dychymyg, cerddoriaeth dda a datganiad eglur….Tri pheth sy’n hanfodol mewn cerdd, sef meddwl dyfeisgar mesurau cerddoriaeth a thafod eglur wrth ei ddatgan)
Yn Statud Gruffydd ap Cynan, llawysgrif o tua 1523 (ond yr honnir iddi gael ei llunio yn oes Gruffydd ap Cynan ei hun, tua 1100), fe geir hyn:
A wedi hynny y dichon atkeiniad….dysgu i blethiadau oll a ffroviad kyffredin ai ostegion a thair ar ddec o brif geinciau ai gwybod yn iawn yn i partiau ac atkan i gywydd gida hwy
(Ac wedi hynny fel all datgeiniad…ddysgu’r holl blethiadau a’r profiad cyffredin a’r tair brif gainc ar ddeg a’u gwybod yn iawn yn eu holl rannau a sut i ddatgan ei gywydd gyda nhw).

Llun gan yr arlunydd J.Michael Brown a ymddangosodd yn y 'Cambrian Minstrelsie' (Alawon Gwalia) – casgliad o alawon Cymreig a olygwyd gan Joseph Parry.
Meddai Lewis Morris mewn llythyr at Owen Meyrick ym 1738:
It is a custom in most counties of North Wales (but better preserved in the mountainous parts of Merionethshire &c) to sing to the Harp certain British verses in rhyme (called pennills) upon various subjects. Three or four kinds of them they can adapt and sing to the measures of any of the tunes in use among them, either in common or triple times, making some parts of the tune a symphony….these Penills that our Countrymen… this day sing to the Harp and Crwth, a method of singing perhaps peculiar to themselves.

