Newid mewn Cerdd Dant

Y prif wahaniaethau rhwng cerdd dant heddiw a cherdd dant yr oes a fu (sef y bedwaredd ganrif ar bymtheg a degawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif):

  1. Dim ond unigolion oedd yn canu cerdd dant ers talwm – doedd dim deuawdau, triawdau, partion na chorau.
  2. Crefft fyrfyfyr oedd hi: doedd fawr neb yn cyfansoddi gosodiad ymlaen llaw a’i ddysgu.
  3. Ar y geiriau yr oedd y pwyslais bron yn gyfangwbl. Bellach rhoddir llawer mwy o bwyslais ar y gerddoriaeth nag yn y gorffennol.
  4. Ychydig iawn o ferched oedd yn canu cerdd dant. Erbyn heddiw, merched yw’r mwyafrif.
  5. Roedd hi’n grefft tipyn llai parchus nag ydyw erbyn heddiw, mewn rhai cylchoedd o leiaf!
  6. Nid oedd corff o reolau ar gael a oedd wedi cael sêl bendith unrhyw fudiad neu gynhadledd.