Ail hanner yr ugeinfed ganrif

Un o gewri’r byd cerdd dant yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, a phrif hanesydd y gymdeithas, yw Aled Lloyd Davies. Yn ei lyfr Hud a Hanes Cerdd Dannau mae’n nodi 1947 fel dechrau cyfnod o adfywiad gwirioneddol.

Dyna’r flwyddyn y cynhaliwyd yr Ŵyl Cerdd Dant gyntaf yn Felinheli. “O’r dyddiad hwnnw y gwelwyd y Gymdeithas yn datblygu, yn tyfu mewn aelodaeth a dylanwad ac yn ehangu gorwelion ei diddordeb,” meddai. Cynhaliwyd cyrsiau penwythnos ac ysgolion haf, ac erbyn dechrau’r wythdegau roedd gan y Gymdeithas 850 o aelodau.

Roedd cyhoeddi Llawlyfr Gosod Aled Lloyd Davies ym 1983 yn ddigwyddiad o’r pwys mwyaf – hwn oedd y llawlyfr cerdd dant mwyaf trylwyr a manwl a gyhoeddwyd erioed yn hanes y grefft.

Bu newid mawr mewn cerdd dant yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ar ddechrau’r ganrif, crefft i unigolion yn unig oedd hi. Yna dechreuwyd ffurfio deuawdau a phartïon bychain. Mentrwyd ymhellach i faes triawdau a phedwarawdau, ac yna, o’r 70au ymlaen, fe ymddangosodd corau cerdd dant am y tro cyntaf.

Tyfodd cystadleuaeth y corau i fod yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd, ac nid cyd-ddigwyddiad yw mai dyma’r cyfnod mwyaf llewyrchus erioed o ran nifer cystadleuwyr a chynulleidfaoedd. Yn y pumdegau, roedd hi’n dal yn bosibl cynnal yr Ŵyl Gerdd Dant mewn neuaddau pentref bychain fel un Penybontfawr, ond bu raid chwilio am lefydd mwy yn fuan iawn. Dechreuodd yr ŵyl gael sylw gan y cyfryngau radio a theledu, a thrwy’r nawdegau bu S4C yn ei darlledu’n flynyddol.

Law yn llaw â’r cynnydd hwn, bu sawl ymgais hefyd i ymestyn ffiniau cerdd dant, i arbrofi ac i ddatblygu. Un o’r rhai a gafodd fwyaf o argraff oedd Gareth Mitford Williams, brodor o Fôn a ddaeth yn hyfforddwr ar Gôr Cerdd Dant Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, ar ddechrau’r wythdegau.

Gyda’i osodiadau newydd a beiddgar (a bwriadol ansoniarus ar brydiau) fe ysgydwodd y byd cerdd dant i’w sail ac achosi dadlau tanllyd. Ysywaeth bu Gareth farw’n ifanc iawn.

Ond fe wnaeth ei farc ac fe arhosodd ei ddylanwad.

Yn y cyfnod diweddar, cyfansoddwyd ceinciau gosod newydd cwbl anhraddodiadol gan rai fel Bethan Bryn, bu mwy o ganu nag erioed ar ddarnau o ryddiaith, ac fe wthiwyd y ffiniau cerddorol ymhellach fyth gan osodwyr fel Einion Dafydd (ar gyfer Ysgol Glanaethwy).

Ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain, mae’n anodd rhagweld i ba gyfeiriad y bydd cerdd dant yn mynd. Teimla rhai fod yr arbrofi wedi cyrraedd ei ben draw ac na ellir mynd lawer pellach; teimla eraill fod angen ail-ymweld yn amlach â’r gwreiddiau a gwneud lle hefyd i’r math mwy ysgafn ac anffurfiol o ganu penillion.

Mae’r grefft o reidrwydd ynghlwm wrth yr iaith Gymraeg ei hun, ac felly mae tynged un yn dibynnu ar y llall.

Mae’n dibynnu hefyd ar awydd y Cymry eu hunain i warchod eu treftadaeth ac i sefyll yn erbyn llif dylanwadau estron yr oes fodern.

Nansi Richards, telynores Maldwyn