Cynhelir y Cwrs Gosod eleni yng Ngwesty Bryn Afon, Rhaeadr ar yr ail benwythnos ym mis Medi – 9-11.
Cost y cwrs ydi £150 i oedolion a £75 i fyfyrwyr sy’n cynnwys llety, holl brydau bwyd, ffioedd a’r adloniant – bargen!
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais ynghyd â blaendal o £25 ydi Awst 12fed, 2011.
Croeso cynnes i ddechreuwyr a gosodwyr profiadol.
Os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch â mi – Delyth Vaughan, Swyddog Gweinyddol neu Haf Morris prif diwtor y cwrs.
