Cwrs 2009

Gwesty’r Metropole, Llandrindod; 11 – 13 Medi 2009


CHWERTHIN A CHWYSU – A DIFERYN O WIN!
Argraffiadau o’r Cwrs Gosod yn Llandrindod gan HUW FOULKES

A minnau wedi bod â’r bwriad o fynd ar y cwrs gosod ers dwy flynedd, daeth yr amser eleni i wireddu hynny. Gydag wythnos yn unig i fynd cyn y byddwn yn cyflwyno fy mhortffolio MA yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a minnau’n bell o fod wedi cwblhau fy nramâu, mynd tua Llandrindod fu fy hanes! Fi a Mari Watkin yn gwmni yn y car o’r ddinas fawr ddrwg. Cyrraedd a chael ein croesawu gan frenhines y byd cerdd dant – Haf Morris – a’i balchder hithau’n amlwg ein bod wedi cyrraedd yn barod am benwythnos o osod! Grêt oedd gweld cymaint o wynebau cyfarwydd ar y cwrs, yr ystod oedran yn amrywio ond pawb yn cymdeithasu a mwynhau!


Cafwyd sgwrs arbennig o ddiddorol gan Leah Owen ar y nos Wener a’r clipiau fideo yn ychwanegu at y cyflwyniad. Daeth tri o’r gloch y bore a phedwar ohonom ar ôl yn y bar. Dyma benderfynu mynd am y ciando a ninnau ddim cweit yn siwr beth i’w ddisgwyl y bore canlynol. Bu’r dydd Sadwrn yn llawn sbort – pawb â’u hallweddellau a’u clustffonau yn gweithio’n ddiwyd ar wahanol osodiadau. Pawb yn hymian eu cyfalawon yn un medli cerdddantaidd drwy’r gwesty! O fewn y diwrnod, roeddwn wedi cwblhau’r targed – gosod fy unawd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2010.


Roedd nos Sadwrn yr un mor hwyliog – pawb yn canu yn y lolfa gydag Arfon Williams a Dylan Cernyw wrth y delyn! Aeth potel o win yn ddwy, yn dair, yn bedair ac am dri o’r gloch y bore dyma gael gwers telyn gan Nia Elain. Bar yn unig o Gelliwig a lwyddais i’w feistroli o fewn ryw awr.


Afraid dweud nad oedd llawer o siâp ar griw’r dosbarth meistr mewn chwarae telyn ar y bore Sul ond mentrais osod ar gyfer mwy nag un llais a hynny’n rhoi’r sbardun imi barhau â’r gwaith wedi’r cwrs. A dyna, am wn i, ydi prif fwriad y penwythnos blynyddol hwn – meithrin sgil a chael yr hyder i’w datblygu ymhellach. A na, does dim rhaid ichi fod yn gwybod yr un gronyn am gerdd dant cyn cyrraedd gan fod y tiwtoriaid yn arbenigwyr yn eu maes. Diolch iddyn nhw – i Leah, Menna, Einir ac wrth gwrs, Haf am gydlynu’r cyfan mor drylwyr ac effeithiol.

Mi fydda’ i yn bendant yn hysbysebu’r cwrs ymhlith ffrindiau dros y flwyddyn nesaf a does dim dwy waith y byddaf yno eto i fwynhau penwythnos llawn hwyl a chwerthin! Mae’r ffaith fod saith o’r rhai fynychodd y cwrs eleni o dan 25 oed yn adrodd cyfrolau.