Mae’r Gymdeithas yn rhedeg cwrs gosod Cerdd Dant yn flynyddol. Yn ogystal â hyn, mae Haf Morris yn paratoi canllawiau ar gyfer gosod darnau’r Urdd yn Allwedd y Tannau bob blwyddyn – un o lawer o eitemau difyr a defnyddiol yn yr Allwedd! Gellir lawrlwytho canllawiau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011 yma.
Cynhelir y Cwrs Gosod ar benwythnos ym mis Medi bob blwyddyn, mewn gwesty yng nghanolbarth Cymru. Mae’r cwrs yn ymestyn o nos Wener hyd at amser cinio dydd Sul, ac mae’r pris yn cynnwys prydau bwyd a gwely am ddwy noson yn y Gwesty ei hun.
Anelir y cwrs at unrhyw un sy’n dymuno cael hyfforddiant yn y grefft o osod cerdd dant. Mae croeso i bob oedran! Gellir mynychu rhan o’r cwrs yn unig os dymunir, ac mae croeso i’r rhai sydd wedi dilyn y cwrs o’r blaen.
Rhennir y cwrs yn ddosbarthiadau fel a ganlyn:
1. Dechreuwyr
2. Rhai gyda pheth profiad ond angen mwy o wybodaeth ac ymarfer
Yn ychwanegol at yr hyfforddiant ymarferol gan arbenigwyr yn y maes, mae’r penwythnos hefyd yn cynnwys sgyrsiau gan bobl amlwg yn y byd cerdd dant, digon o gyfle i drin a thrafod, a digon o amser i gymdeithasu!
Os oes gennych ddiddordeb neu am fwy o fanylion, cysylltwch â’r Swyddog Gweinyddol. Dilynwch y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau.

