Llogi Telyn 2012-13
Bydd ffurflenni cais am y gwasanaeth llogi telyn gan y Gymdeithas ar gael yn fuan. Neu gallwch fy ffonio/e-bostio am ffurflen gais.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau am eleni yw 1af Mehefin, 2012
Cwrs Gosod 2012
Eleni eto, byddwn yn dychwelyd i Westy Brynafon, Rhaeadr am benwythnos o ddysgu'r grefft o osod cerdd dant - penwythnos 7fed-9fed o Fedi.
Ffurflen gais ar gael yn fuan. Am fwy o fanylion cysylltwch â mi am fwy o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb - delythfon@hotmail.com
Gwyl Cerdd Dant Sir Conwy 2012
Cofiwch fod rhestr testunau Gwyl Cerdd Dant Sir Conwy ar gael erbyn hyn. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ysgrifenyddion yr Wyl - Dennis ac Enid Davies, Gwenallt, Ffordd Llanddoged, Llanrwst - 01492 640 060