Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012
Buan iawn y daw hi'n steddfodau cylch a sir yr Urdd yn y flwyddyn newydd. Cofiwch gysylltu os byddwch yn chwilio am rai o geinciau'r Urdd.
Delyth - delythfon@hotmail.com neu 01248 602 323
Cwrs Gosod 2012
Eleni eto, byddwn yn dychwelyd i Westy Brynafon, Rhaeadr am benwythnos o ddysgu'r grefft o osod cerdd dant - penwythnos 7fed-9fed o Fedi.
Ffurflen gais ar gael yn fuan. Am fwy o fanylion cysylltwch â mi am fwy o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb - delythfon@hotmail.com
Gwyl Cerdd Dant Sir Conwy 2012
Cofiwch fod rhestr testunau Gwyl Cerdd Dant Sir Conwy ar gael erbyn hyn. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ysgrifenyddion yr Wyl - Dennis ac Enid Davies, Gwenallt, Ffordd Llanddoged, Llanrwst - 01492 640 060