Y Cam Cyntaf (pennill pedair llinell)

 

Ffordd o gyflwyno geiriau i gyfeiliant telyn yw cerdd dant.

Mae dwy elfen:

• Y Gainc – yn cael ei chwarae gan y delyn
• Y Gyfalaw – yn cael ei chanu gan un neu fwy o leisiau

Mae’r gyfalaw yn cael ei gosod ar eiriau – barddoniaeth fel arfer, ond weithiau hefyd ddarn o ryddiaith.

Y delyn sy’n dechrau chwarae gyntaf bob amser.
Yna mae’r llais neu’r lleisiau yn ‘taro i mewn’ yn y man priodol - sef yr union fan sy’n sicrhau fod y gainc a’r pennill yn gorffen yr un pryd.

Mae’r gainc a chwaraeir gan y delyn bob amser yn gerddoriaeth sydd wedi'i drefnu'n barod, ac ni ddylid newid dim arni.

Ar y llaw arall, mae’r gyfalaw (counter-melody) bob amser yn cael ei chyfansoddi o’r newydd ac mae cyfalaw pob pennill yn wahanol.

Gosodiad yw’r  gair am gyfalaw a gyfansoddwyd.  Gosod yw’r  grefft o gyfansoddi cyfalaw.

Datgeinydd yw’r gair am y person sy’n canu.

Dylai’r gosodiad bob amser adlewyrchu natur y geiriau.

Rhaid i nodau’r gyfalaw fod yn wahanol i nodau’r gainc, ond mewn harmoni gyda nodau’r gainc. Fodd bynnag, caniateir rhai eithriadau, e.e. nodyn olaf y pennill. Dylai’ch nodyn olaf un orffen ar yr un nodyn â’r gainc.

Fel arfer, dylai’r gyfalaw redeg yn naturiol a llyfn, heb ormod o neidiadau di-angen.

Nid oes hawl i ddefnyddio llithren mewn cerdd dant, h.y., ni chaniateir mwy nag un nodyn ar un sill. Y term am hyn yw ‘sill am dant’.

Dylai sillafau acennog y geiriau ddisgyn ar nodau acennog y gainc.

Dim ond un curiad o saib, neu un curiad o ddaliad, a ganiateir ar y tro.

Gyda llaw....
Ers talwm, byddai’r hen ddatgeiniaid i gyd yn cyfansoddi eu cyfalaw ar y pryd - yn fyrfyfyr - ond bellach mae pawb bron yn cyfansoddi eu cyfalaw ymlaen llaw ac yn ei dysgu. Pa wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud yn eich barn chi?

Fel y soniwyd eisoes, dylai acenion cryf y geiriau ddisgyn ar acenion cryf y gainc.
Cyn cychwyn, felly, rhaid chwilio am yr acenion cryf yn y geiriau, a’u nodi.
Y ffordd orau o wneud hyn yw adrodd y geiriau yn uchel sawl gwaith.

Mae dwy brif acen ym mhob llinell yn y geiriau isod.
Ceisiwch nodi’r ddwy acen honno uwchben y sill berthnasol ym mhob llinell.

Ystrad Fflur gan T. Gwynn Jones

Mae dail y coed yn Ystrad Fflur
Yn murmur yn yr awel,
A deuddeg abad yn y gro
Yn huno yno’n dawel.

(trydydd pennill)
Er bod yr haf, pan ddêl ei oed,
Yn deffro’r coed i ddeilio,
Ni ddeffry dyn, a gwaith ei law
Sy’n distaw ymddadfeilio.

Mae dail y coed yn Ystrad Fflur

Yn murmur yn yr awel,

A deuddeg abad yn y gro

Yn huno yno’n dawel.

 

Er bod yr haf, pan ddêl ei oed,

Yn deffro'r coed i ddeilio,

Ni ddeffry dyn, a gwaith ei law

Sy'n distaw ymddadfeilio.

Dyma gam pwysig cyn cychwyn gosod, oherwydd `wnaiff unrhyw gainc mo’r tro - rhaid iddi fod yn addas.

I ddibenion y wers hon fe ddewiswyd y gainc Mwynder Llinos gan Llyfni Huws.

Os ydych am ganllawiau pellach ar fater dewis cainc, cliciwch ar dudalen 13.

Dyma’r gainc. Cliciwch yma i’w chlywed. Sylwch fod pob cainc yn rhannu’n ddwy ran – neu’n ddau ben.

(I gael fersiwn fwy o’r gerddoriaeth cliciwch arno)

 

I ddechrau, gosodwch y geiriau gyda’r acenion trwm ar acenion trwm y gainc.
Cychwynnwch gyda’r gair olaf ac wedyn gweithio’n ôl, fel a ganlyn.

Cliciwch yma i glywed y gainc eto.

Yna rhowch weddill y geiriau yn y bylchau, fel hyn:

(I gael fersiwn fwy o’r gerddoriaeth cliciwch arno)

 

Ystyr y gair corfannu yw’r modd y caiff y geiriau eu gosod ar y gainc – ymhle i adael curiad gwag, pa eiriau neu sillafau sy’n cael curiad llawn a pha rai sy’n cael tri-chwarter, hanner neu chwarter curiad.

Naturioldeb yw’r nod. Dylai’r geiriau gael eu canu yn union fel y byddech yn eu dweud. 

Y canllaw gorau o ddigon yw adrodd y geiriau yn uchel a chadw at y mydr naturiol hwnnw bob amser. Bydd eich clust fel arfer yn dweud wrthych beth sy’n gywir a beth sy’n anghywir.

Cymerwn y llinell gyntaf, Mae dail y coed yn Ystrad Fflur.
Fel hyn y byddai’r llinell yn cael ei llefaru:

Ac nid fel hyn:

 

  • Rydych yn gosod ar gyfer rhywun arbennig. Gofalwch fod y llais hwnnw yn medru cyrraedd y nodau heb straenio’n ormodol!
  • Rhaid osgoi defnyddio yr un nodau â’r gainc
  • Ceisiwch osgoi symud o hyd mewn 3yddau neu 6edau gyda nodau’r gainc
  • Ceisiwch osgoi gor-ddefnyddio’r un nodyn, rhag i’r gyfalaw fynd yn undonnog
  • Canwch eich cyfalaw heb gyfeiliant y gainc i weld sut mae’n swnio

Cofiwch am y canllawiau a grybwyllwyd eisoes. Mae’n werth eu hailadrodd:

  • Dylai’r gosodiad adlewyrchu natur y geiriau.
  • Rhaid i nodau’r gyfalaw fod mewn harmoni gyda nodau’r gainc. Gall nodyn olaf y pennill fod yr un fath â’r alaw os dymunwch – ond dylech amrywio’r nodyn o un pennill i’r llall.
  • Dylai’ch nodyn olaf un orffen ar yr un nodyn â’r gainc, neu mewn 8awd â’r nodyn.
  • Dylai’r gyfalaw redeg yn naturiol a llyfn, heb ormod o neidiadau di-angen.
  • Yr eithriad yw pan fo angen i’r gyfalaw gyfleu rhywbeth arbennig yn y geiriau, e.e. dicter, gorfoledd, casineb, oerni.
  • Nid oes hawl i ddefnyddio llithren, h.y., ni chaniateir mwy nag un nodyn ar un sill.
  • Dylai sillafau acennog y geiriau ddisgyn ar nodau acennog y gainc.
  • Dim ond un curiad o saib, neu un curiad o ddaliad, a ganiateir ar y tro.

 

Cliciwch yma i’w glywed.

(I gael fersiwn fwy o’r gerddoriaeth cliciwch arno)

 

Cliciwch yma i’w glywed.

(I gael fersiwn fwy o’r gerddoriaeth cliciwch arno)

Gwrandewch eto ar hwn, a’r tro yma ceisiwch wrando’n feirniadol. Mae’r gosodiad yn hollol gywir yn dechnegol, ond bydd eich clust yn dweud wrthych fod rhai pethau angen eu newid. Gwnewch restr ohonynt cyn troi i’r dudalen nesaf.

  • A yw’r gosodiad yn cyfleu naws y pennill mewn gwirionedd?
  • Mae’r corfannu yn anghywir ar ddechrau’r ail linell: pwyslais annaturiol ar y gair ‘Yn’
  • Mae’r naid o ‘deuddeg’ i ‘abad’ yn annaturiol – ac yn ddiangen
  • Felly hefyd y naid ar y gair ‘yno’
  • A oes angen dau nodyn gwahanol o ddifri ar y gair ‘awel’?  Mae’r holl far yn drwsgwl
  • Byddai nodau isel yn fwy addas ar y gair ‘huno’
  • Tybed a oes modd bod ychydig yn fwy dychmygus gyda’r nodau ar y gair ‘murmur’?

Er bod yr haf, pan ddêl ei oed,
Yn deffro’r coed i ddeilio,
Ni ddeffry dyn, a gwaith ei law
Sy’n distaw ymddadfeilio.

I ddechrau nodwch yr acenion trwm, yna gosodwch y geiriau ar acenion trwm ail ran y gainc, isod.
Argraffwch hwn a chyfansoddwch eich gosodiad eich hun.

(I gael fersiwn fwy o’r gerddoriaeth cliciwch arno)

Dylai’r gainc a ddewisir fod yn addas ar gyfer y geiriau y dymunir eu canu.
Mae tri pheth i’w ystyried:

  • Hyd y penillion
  • Naws y geiriau
  • A yw’r geiriau yn y mesurau caeth (cynghanedd) neu yn y mesurau rhydd?

Erbyn hyn mae tua 600 o geinciau i ddewis o’u plith! Mae tua 100 ohonynt yn geinciau traddodiadol, a’r gweddill i gyd wedi eu cyfansoddi yn ystod yr 20fed ganif a dechrau’r unfed ganrif ar hugain:

  • Ceinciau yn y cywair llon
  • Ceinciau yn y cywair lleddf
  • Ceinciau amseriad 2/4 a 4/4, ac weithiau 5/4 hefyd. Os ydych am osod geiriau yn y mesurau caeth rhaid i chi ddewis cainc 2/4 neu 4/4
  • Ceinciau amseriad 3/4 a 6/8
  • Ceinciau byrion a cheinciau hirion!

Mae pob cainc yn rhannu’n ddwy ran.
Weithiau fe welir marc ar waelod y gainc: 122 neu 1212 neu 1122. Mae hynny’n dynodi trefn briodol y gainc.
Er enghraifft, golyga 122 fod ail ran y gainc yn cael ei hailadrodd.

 

Gobeithio i chi gael hwyl arni.

Mae’r penillion a ddewiswyd ymhlith y rhai hawsaf i’w gosod, ond ar yr un pryd yn dangos y prif reolau a’r egwyddorion.

Ymlaen i’r wers nesaf!