#Daeth amser i ffarwelio…#
Wel, dyna ni – mae swydd y Swyddog Gweinyddol ar gael i’r ymgeisydd gorau! Cliciwch ar y ddolen ar y dde >> i gael mwy o fanylion.
Pob hwyl!
|
|||
|
#Daeth amser i ffarwelio…# Wel, dyna ni – mae swydd y Swyddog Gweinyddol ar gael i’r ymgeisydd gorau! Cliciwch ar y ddolen ar y dde >> i gael mwy o fanylion. Pob hwyl! Mae manylion y gweithdy cyfeilio bellach wedi eu cadarnhau; Chwefror 19 yn Bys a Bawd, Llanrwst. Ewch i’r dudalen am y gweithdy uchod (Gwasanaethau >> Gweithdy Cyfeilio) i gael yr holl fanylion a ffurflen gofrestru. Cwrs gwerth chweil gyda rhai o’r unigolion mwyaf profiadol yn y maes a chinio i gyd am £25! Cofiwch ddweud wrth eich ffrindiau. Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Dyma damed o g’lennig i chi: canllawiau gosod ar gyfer darnau prawf Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011. Bydd manylion am y gweithdy cyfeilio Cerdd Dant yn dod yn fuan iawn. Mwynhewch y gosod! Mae Neuadd PJ yn edrych yn wych, yr arwyddion wedi eu gosod o gwmpas y campws a’r gweithwyr swyddfa wedi gwneud yn siŵr fod y peiriant llungopio’n gweithio! Mae’r pwyllgor lleol wedi bod wrthi’n ddiwyd iawn yn paratoi at yr Ŵyl, a hynny ar amserlen dynnach na’r arfer ac mae rhagolygon y bydd y cystadlu yfory mor frwd ag erioed. Mae’r Gymdeithas bellach ar wefan boblogaidd twitter ac os na fedrwch fod yn bresenol heddiw, bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yno. Dilynwch ni! www.twitter.com/CerddDant Bydd S4C yn darlledu drwy’r dydd gyda rhagleni o 12:00 – 14:00, 16:45 – 18:45 a 19:30 i’r diwedd a Radio Cymru o 18:30 i’r diwedd. Gyda dros fil yn cystadlu (y nifer mwyaf ers sawl blwyddyn), mi ddylai fod yn gracar o Ŵyl. Peidiwch â’i cholli, lle bynnag ‘dach chi! Croeso i wefan y gymdeithas ar ei newydd wedd! Dwi’n gobeithio medru datblygu mwy ar y wefan yn llawer cynt yn y dyfodol, ac mae llawer o gynlluniau ar y gweill – gan gynnwys siop ar-lein. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau am welliannau neu unrhyw nodweddion hoffech eu gweld ar y wefan, plis cysylltwch â mi. Mae pob adborth o gymorth i mi! |
|||
|
Hawlfraint © 2012 Cymdeithas Cerdd Dant Cymru - Cedwir Pob Hawl |
|||