Ers ei sefydlu ym 1934 mae’r Gymdeithas Cerdd Dant wedi tyfu a datblygu yn gyson. Bellach mae ganddi 600 o aelodau ac mae’n cyflogi dau berson yn rhan-amser – Swyddog Gweinyddol a Threfnydd y Gwyliau Cerdd Dant.
Uchafbwynt gweithgareddau’r flwyddyn yw’r Ŵyl Cerdd Dant, gŵyl undydd a gynhelir bob mis Tachwedd.
Cynhelir Cynhelir cyrsiau hyfforddi bob blwyddyn i ddysgu sut i osod cerdd dant ac ar gyfer dysgu telynorion sut i gyfeilio.
Mae’r gymdeithas yn trefnu pabell ac arddangosfa bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’r gymdeithas hefyd yn weithgar drwy gydol y flwyddyn yn annog gweithgareddau lleol, ac yn gwasanaethu ar baneli canolog yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd.
Rheolir y gymdeithas gan Bwyllgor Gwaith sy’n cyfarfod dair gwaith y flwyddyn. Cynhelir etholiadau ymhlith yr aelodau bob blwyddyn i ethol chwech aelod newydd, sy’n gwasanaethu am dymor o dair blynedd.
Cofrestrwyd y Cymdeithas Gerdd Dant fel elusen, rhif 500350.
